Teyrnasiad Barack Obama yn dirwyn i ben eleni
Gallai cytundebau masnach rhwng Prydain a’r Unol Daleithiau gymryd hyd at ddegawd pe bai Prydain yn penderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl Barack Obama.
Mewn cyfweliad â’r BBC, dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau y gallai fod yn “10 mlynedd cyn y gallwn ni gael gwneud rhywbeth”.
Ychwanegodd y byddai gan Brydain lai o ddylanwad yn fyd-eang pe na bai’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd, ac y byddai “wrth gwt y ciw” wrth geisio dod i gytundeb gyda’r Unol Daleithiau tros fasnach.
Ond mae Maer Llundain, Boris Johnson, sy’n ymgyrchu o blaid gadael Ewrop, wedi galw’r sylwadau’n “rhagrithiol”.
Daw sylwadau Obama ar drothwy taith i’r Almaen, lle bydd yn cyfarfod â Changhellor y wlad, Angela Merkel i geisio cefnogaeth ar gyfer cytundeb masnach rhwng y DU a’r Unol Daleithiau.
Mae’r darpar-ymgeisydd ar gyfer arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau, Hillary Clinton hefyd wedi datgan y dylai Prydain aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.
Mae Clinton yn gobeithio ennill yr enwebiad ar gyfer y Democratiaid i olynu Obama.
Bydd refferendwm yn cael ei gynnal ar fater Ewrop ar Fehefin 23.