Aelodau seneddol am dreialu'r cytundeb newydd ar raddfa lai yn gyntaf
Mae grŵp trawsbleidiol o aelodau seneddol yn San Steffan wedi galw am dreialu cytundeb newydd i feddygon iau mewn ymgais i atal y streic sydd wedi’i threfu yr wythnos nesaf.

Maen nhw’n galw am dreialu’r cytundeb mewn nifer fechan o ymddiriedolaethau iechyd.

Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt, dywedodd Heidi Alexander (Llafur), Dan Poulter (Ceidwadwyr), Norman Lamb (Democratiaid Rhyddfrydol) a Philippa Whitford (SNP) eu bod nhw am weld asesiad annibynnol o’r “effaith penwythnos”, sef cyfraddau uwch o bobol yn yr ysbyty yn marw dros y penwythnos.

Daw’r alwad gan yr aelodau seneddol ar ôl i Jeremy Hunt ddweud ei fod yn barod i gyflwyno’r cytundeb newydd yn ei ffurf wreiddiol hyd yn oed pe na bai ganddo gefnogaeth Cymdeithas Feddygol y BMA.

Mae’r llythyr yn nodi’r pryderon sydd gan aelodau seneddol am y cytundeb newydd, ac mae’n dweud eu bod nhw o’r farn y gellid atal y streic pe bai Llywodraeth Prydain yn derbyn y cynnig i dreialu’r cytundebau.

Mae’r BMA wedi dweud eu bod nhw’n barod i ystyried gohirio’r streic pe bai’r Llywodraeth yn barod i’w cyfarfod.

Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Prydain eu bod nhw wedi cynnal 75 o gyfarfodydd dros gyfnod o dair blynedd ac nad oedden nhw’n fodlon oedi ymhellach.