Arlywydd Brasil, Dilma Rousseff
Mae Arlywydd Brasil, Dilma Rousseff, wedi cael ergyd arall i’w harweinyddiaeth ar ôl i Siambr y Dirprwyon bleidleisio o blaid dechrau proses uchelgyhuddo yn ei herbyn.
Roedd 367 wedi pleidleisio o blaid dechrau’r broses, sy’n fwy na’r trothwy o 342 o bleidleisiau oedd eu hangen er mwyn symud y broses i’r Senedd.
Fe fydd pleidlais fwyafrifol yn penderfynu a fydd achos yn cael ei gynnal yn erbyn Dilma Rousseff, ac a fydd yn cael ei hatal o’i swydd tra bod yr Is-lywydd Michel Temer yn cymryd yr awenau dros dro.
Nid oes dyddiad wedi cael ei bennu ar gyfer pleidlais yn y Senedd hyd yn hyn ond mae disgwyl iddi gael ei chynnal tua chanol mis Mai.
Daeth plaid asgell chwith Dilma Rousseff i rym 13 mlynedd yn ôl gydag addewid i wella bywydau pobl ddifreintiedig. Ond mae nifer o bobl Brasil yn credu mai hi sy’n gyfrifol am y dirwasgiad yn y wlad, trethi uchel a gwasanaethau cyhoeddus gwael.
Mae aelodau ei phlaid yn mynnu nad yw’r frwydr ar ben ac na fydd Dilma Rousseff yn ymddiswyddo.