George Osborne
Fe fyddai gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn golygu bod cartrefi ar eu colled o £4,300 y flwyddyn, yn ôl George Osborne wrth iddo baratoi i gyhoeddi astudiaeth y Trysorlys o gost Brexit.
Mae’r astudiaeth yn amcangyfrif y byddai’r economi yn crebachu 6% erbyn 2030 petai Prydain yn mabwysiadu cytundeb masnach Canada, sy’n cael ei ffafrio gan Boris Johnson, yn ôl y Canghellor.
Mae adroddiad y Llywodraeth yn asesu’r costau hirdymor a’r buddiannau o fod yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd ac yn dod i’r casgliad y byddai Prydain yn “dlotach” o ganlyniad.
Mae Osborne wedi wfftio honiadau ymgyrchwyr sydd o blaid gadael Ewrop y byddai’r DU ar ei hennill gan na fyddai’n cyfrannu at goffrau’r UE.