Plismyn yn chwilio trwy adfeilion tai a gafodd eu dinistrio gan y daeargryn yn ne-orllewin Japan heddiw (Shohei Miyano/Kyodo News via AP)
Mae dros 40 o bobl wedi marw yn Japan ar ôl dau ddaeargryn cryf o fewn llai na deuddydd i’w gilydd yn ne-orllewin y wlad.

Mae tua 1,500 wedi eu hanafu a channoedd o filoedd heb drydan na dŵr.

Mae gwaith achubwyr yn cael ei gymhlethu gan law trwm sy’n debygol o arwain at ragor o dirlithriadau mewn trefi bach gwledig, lle mae pobl yn dal i ddisgwyl i gael eu hachub o’u tai.

Fe fu farw 32 mewn daeargryn 7.3 ar raddfa Richter yn ardal Kumamoto ar ynys dde-orllewinol Kyushu yn gynnar heddiw. Hon oedd union yr un ardal lle bu farw naw o bobl mewn daeargryn maint 6.5 nos Iau.

30 gwaith mwy pwerus

Dywed David Rothery, athro gwyddorau daearyddol planedol y Brifysgol Agored fod y daeargryn y bore yma 30 yn fwy pwerus na’r un nos Iau.

“Mae’n anarferol ond nid yn amhosibl i ddaeargryn mwy ac sy’n fwy dinstriol ddilyn yr hyn a gymerwyd oedd y ‘prif ddigwyddiad’,” meddai.

“Ym mis Mawrth 2011, cafodd daeargryn 7.2 yng ngogledd Japan ei ddilyn ddeuddydd yn ddiweddarach gan un 9.0 ddeuddydd a achosodd y tsunami trychinebus.

“Yn ffodus, roedd y canolbwyntiau y tro hwn o dan y ddaear hyn yn hytrach nag o dan y môr, ac ni achoswyd dim tsunamis.”