Ken Clarke 2 (yup CCA 2.0)
Mae un o hoelion wyth y Blaid Geidwadol yn rhybuddio bod y refferendwm ar ddyfodol Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd yn arwain y blaid tuag at ryfel cartref.

Dywed y cyn-weinidog Ken Clarke fod y ffraeo sy’n digwydd ymysg y Torïaid heddiw yn ei atgoffa o’r rhaniadau chwerw yn sgil y ffraeo am yr Undeb Ewropeaidd o dan arweinyddiaeth Syr John Major.

“Rydym yn beryglus o agos at hynny,” meddai. “A rhaid inni i gyd ar y ddwy ochr na fydd hynny’n digwydd. Roedd y blaid yn anetholadwy oherwydd y rhyfel cartref chwerw ac roedd yn amhosibl gweld sut y gallai’r blaid barhau – rhag gofalu na fydd hyn yn digwydd.”

Dywedodd hefyd y byddai ar ben ar David Cameron fel Prif Weinidog os bydd pleidleiswyr yn cefnogi Brexit yn y refferendwm.

“Fyddai’r Prif Weinidog ddim yn para 30 eiliad petai’n colli’r refferendwm ac fe fydden ni ar ein pennau mewn argyfwng arweinyddol fel plaid,” meddai.