Boris Johnson (llun parth cyhoedus)
Mae’r ffordd y mae llywodraeth Prydain yn gwario arian trethdalwyr ar daflen i annog pleidlais o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn ‘gywilyddus’ yn ôl Boris Johnson.
Wrth siarad yn Newcastle mewn taith ‘Brexit blitz’ o ogledd Lloegr, meddai: “Maen nhw’n gwario £9.3 miliwn o arian trethdalwyr ar gyfle i geisio dychryn pawb i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
“Yn eu tactegau ‘project fear’ maen nhw’n tanbrisio’r wlad hon a’i phobl a’r hyn y gallwn ei wneud.”
Ni chafodd Maer Llundain groeso gan bawb yn y ddinas – bu heclwyr yn gweiddi “no Tories in Newcastle” arno ar ddechrau ei araith.
Ond dywedodd fod pobl yn Llundain yn gweiddi pethau tebyg arno wrth iddo fynd ar ei feic trwy’r ddinas.
“Yn wahanol i wleidyddion a biwrocratiaid di-enw Brwsel, mae pobl yn gallu fy nal i’n atebol,” meddai.
“Maen nhw’n gallu gweiddi arnaf i yn stryd fel y mae’r cyfeillion hyn heddiw. Maen nhw’n gweiddi ‘you Tory tosser’ neu beth bynnag.
“Maen nhw’n gwybod pwy ydw, maen nhw’n gwybod beth ydw i’n ei wneud. Pwy a ŵyr beth sy’n ymlaen ym Mrwsel?”