Mae pump o bobol wedi’u lladd wedi i hofrennydd dwristiaid blymio i’r ddaear yn ardal Mynydd y Great Smoky yn nwyrain Tennessee.

Fe gafodd y ddamwain ei chofnodi ger Seviervile, wrth i’r hofrennydd Bell 206 fynd â theithwyr i weld y golygfeydd.

Ond, er ei ymladdwyr tân gael eu galw yno, roedd yr hofrennydd wedi’i dinistrio gan dân.

Fe ddaeth cadarnhad yn ddiweddarach gan Gymdeithas Rheoli Argyfyngau Tennessee fod pump o bobol wedi marw yn y digwyddiad.