Mae nifer y plismyn sydd i ffwrdd o’u gwaith am gyfnod hir oherwydd rhesymau seicolegol wedi cynyddu mwy na thraean yn ystod y pum mlynedd diwetha’.

Yn ôl cais rhyddid gwybodaeth gan y BBC, roedd 6,129 o swyddogion heddlu yng Nghymru a Lloegr wedi gadael eu gwaith am resymau seicolegol y llynedd o gymharu â 4,544 yn 2010.

Mae’r ffigurau hefyd yn dangos bod heddluoedd Cymru ymysg y rhai a welodd y cynnydd mwya’.

‘Ddim yn syndod’

Mae hyn yn ychwanegol at y toriadau sydd wedi arwain at ostyngiad o 17,000 yn nifer y swyddogion heddlu ers 2010.

Dywedodd Che Donald o Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr, nad yw’r cynnydd mewn absenoldeb tymor hir o’r gwaith am resymau seicolegol “ddim yn syndod”.

“Rydyn ni’n gweld mwy o swyddogion yn cymryd amser i ffwrdd oherwydd rhesymau iechyd meddwl; maen nhw’n aml yn gweithio mewn amgylcheddau gyda straen a chyflymder ac yn agored i sefyllfaoedd dychrynllyd sy’n gadael ei effaith.”