Donald Trump wedi gorfod egluro nifer o sylwadau dadleuol
Mae Donald Trump wedi dweud y bydd yn sicrhau enwebiad y Gweriniaethwyr i fod yn ymgeisydd ar gyfer arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau hyd yn oed os yw’n colli’r etholiad yn Wisconsin ddydd Mawrth.

Dywedodd Trump wrth sianel deledu Fox na chafodd wythnos dda iawn yr wythnos diwethaf, wedi iddo orfod amddiffyn ei sylwadau am erthylu, Nato ac arfau niwclear yn Siapan a De Corea.

Wrth drafod erthylu, fe gymharodd y weithred gyda llofruddiaeth. Yn dilyn beirniadaeth, fe eglurodd ei sylwadau gan ddweud y dylai meddygon sy’n erthylu babanod wynebu cosb.

Dywedodd Trump, er gwaetha’r ffrae, ei fod yn anelu am fuddugoliaeth yn Wisconsin serch hynny.

“Byddaf yn ei gwneud hi beth bynnag”, meddai.

Fe fydd yn wynebu cystadleuaeth gref gan Ted Cruz a John Kasich.