Enda Kenny ymhlith y rhai a fynychodd seremoni arbennig i nodi canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg 1916
Mae cofeb wedi cael ei dadorchuddio yn Nulyn i bron i 500 o bobol a gafodd eu lladd yn ystod Gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon yn 1916.

Roedd 268 o arweinwyr grwpiau gweriniaethol a phobol gyffredin ymhlith y 488 a gafodd eu lladd yn ystod y brwydro ffyrnig gyda’r awdurdodau dros annibyniaeth.

Mae rhai eisoes wedi gwrthwynebu cynnwys enwau 119 o filwyr o wledydd Prydain a gafodd eu lladd, sydd wedi cael ei dadorchuddio ym mynwent Glasnevin ar gyrion y ddinas.

Ymgais i gofnodi ffeithiau hanesyddol yw’r gofeb, yn ôl Ymddiriedolaeth Glasnevin.

Roedd y Garda – heddlu Iwerddon yn yr ardal wrth i wasanaeth crefyddol gael ei gynnal, a Taoiseach y wlad, Enda Kenny yn bresennol.

Yn dilyn y protestiadau, cafodd llanc 15 oed ei arestio ger y fynwent.