Roedd Alun Cairns a Jane Hutt yng Nghlwb Criced Y Fro yng Nghorntwn ddydd Sadwrn
Roedd Ysgrifennydd Cymru ac Aelod Seneddol Bro Morgannwg, Alun Cairns yng Nghlwb Criced Y Fro yng Nghorntwn ddydd Sadwrn ar gyfer lansiad cynllun criced ar lawr gwlad.
Menter Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) yw Cricket Force, a’i nod yw gwella cyfleusterau ac adnoddau clybiau criced lleol drwy Gymru a Lloegr.
Cafodd Clwb Criced Y Fro ei sefydlu yn 2004 wrth i dri thîm lleol uno, sef Southerndown, Ewenni a Chorntwn, a hynny am fod diffyg chwaraewyr yn yr ardal.
Mae’r clwb bellach yn chwarae yn Adran 3 Cynghrair Morgannwg a Sir Fynwy, ac mae ganddyn nhw ddau dîm i oedolion a phedwar tîm iau.
Cafodd adnoddau’r clwb eu datblygu fel bod modd iddyn nhw gynnal gemau Uwch Gynghrair Cymru.
Fel rhan o gynllun Cricket Force, fe fu aelodau’r clwb a gwirfoddolwyr yn paratoi’r cae a’r cyfleusterau ar gyfer y tymor newydd, a chafodd cynllun 2020 y clwb ei lansio gerbron Ysgrifennydd Cymru a’r Aelod Seneddol lleol, Alun Cairns a’r Gweinidog Cyllid ac Aelod Cynulliad lleol, Jane Hutt.
Ymhlith y tasgau a gafodd eu cyflawni roedd paentio’r pafiliwn, torri’r glaswellt, ac adeiladu a phaentio ffensys a seddau.
Cafodd y clwb gefnogaeth Clwb Criced Morgannwg, Criced Cymru, Tesco a nifer o gwmnïau adeiladu a garddio lleol.
Y Cynllun
Diben Cynllun 2020 Clwb Criced Y Fro yw creu canolfan ragoriaeth yng Nghorntwn, a chael cydnabyddiaeth fel lleoliad chwaraeon o’r radd flaenaf at ddefnydd y gymuned leol.
Cynllun pum mlynedd yw hwn, ac mae’r clwb eisoes wedi dechrau gweithio ar eu hamcanion ar gyfer y flwyddyn gyntaf, sef codi cyfleuster ymarfer, prynu cawell fatio, trwsio sgriniau a’r blwch sgorio a phrynu gorchudd newydd.
Mae cynlluniau’r dyfodol yn cynnwys codi cyfleuster ymarfer dan do.
Cynllun ‘hanfodol’
Ar ddiwrnod lansio’r cynllun, dywedodd Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris fod Cricket Force yn “hanfodol” ar gyfer datblygiad criced ar lawr gwlad yng Nghymru.
Roedd dros 100 o glybiau o Gymru wedi cofrestru ar gyfer y diwrnod.
“Cafodd Cricket Force ei sefydlu gan yr ECB (Bwrdd Criced Cymru a Lloegr) ryw bymtheg mlynedd yn ôl a dw i’n credu ei bod yn un o’r mentrau pwysicaf gafodd ei sefydlu ganddyn nhw erioed.
“Pan feddyliwch chi fod mwy na 2,000 o glybiau wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad eleni, ac oddeutu 100 ohonyn nhw yng Nghymru, mae’n fenter wych er mwyn sicrhau bod criced yn parhau’n fywiog ar lawr gwlad.
“Mae gweld cynifer o wirfoddolwyr, cynifer o’r gymuned leol yn cymryd rhan yn eu clwb criced cymunedol yn galonogol iawn.”
Clwb Criced Y Fro
Roedd Hugh Morris hefyd yn llawn canmoliaeth i Glwb Criced Y Fro a’u hymdrechion ar ddiwrnod Cricket Force.
Ychwanegodd: “Mae’n amlwg bod yna bobol angerddol ac uchelgeisiol ynghlwm wrth Glwb Criced Y Fro.
“Dw i’n eu hedmygu nhw’n fawr. Maen nhw’n gwneud gwaith gwych. Mae ganddyn nhw weledigaeth glir iawn o ran lle maen nhw am i’r clwb fynd a sut maen nhw am wneud hynny.
“O ran y gymuned leol, galla i sicrhau iddyn nhw fod ganddyn nhw glwb criced bywiog iawn yn eu cymuned a byddwn i’n eu hannog nhw i ymuno ac i fod yn rhan ohono fe.”
Stori: Alun Rhys Chivers