Nifer o chwaraewyr a thimau yn cael eu hamau o ddrwgweithredu
Wrth i dîm criced Lloegr baratoi i herio India’r Gorllewin yn rownd derfynol Cwpan T20 y Byd yn India ddydd Sul, mae adroddiadau bod un o’i sêr ymhlith nifer o bobol o fyd y campau sydd wedi derbyn cyffuriau gan feddyg.

Dywed papur newydd y Sunday Times fod Dr Mark Bonar yn codi miloedd o bunnoedd ar sêr o fyd y campau am gyffuriau i wella’u perfformiad.

Mae’r erthygl ar flaen y papur newydd yn honni bod corff UKAD – y corff sy’n rheoleiddio mesurau gwrth-gyffuriau yng ngwledydd Prydain – yn gwybod am weithgarwch amheus y meddyg ddwy flynedd yn ôl.

Mae Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, John Whittingdale wedi galw am gynnal ymchwiliad i’r corff.

Yr honiadau

Mewn cyfres o gyfarfodydd rhwng Dr Mark Bonar a newyddiadurwyr cudd, cafodd nifer o honiadau eu gwneud gan y meddyg:

  • Ei fod e wedi rhoi cyffuriau i un o gricedwyr Lloegr, seiclwr sydd wedi cystadlu yn y Tour de France, pencampwr paffio, chwaraewyr tenis, pêl-droedwyr a chystadleuwyr yn y campau milwrol
  • Ei fod e wedi trin chwaraewyr pêl-droedwyr o nifer o glybiau Uwch Gynghrair Lloegr, gan gynnwys Arsenal, Chelsea a Chaerlŷr, a Birmingham sydd bellach yn y Bencampwriaeth. Does dim tystiolaeth annibynnol i brofi hyn.
  • Bod aelod o staff Chelsea wedi awgrymu wrth un o’r chwaraewyr y dylai fynd at y meddyg i gael steroids anghyfreithlon
  • Ei fod e wedi rhoi cyffuriau anghyfreithlon i fwy na 150 o chwaraewyr o wledydd Prydain ac o dramor yn ystod y chwe blynedd diwethaf

UKAD

UKAD yw’r corff sydd wedi bod yn ymchwilio i honiadau bod athletwyr o Rwsia wedi cymryd cyffuriau, a arweiniodd at eu gwahardd rhag cystadlu fel gwlad.

Mae’r corff yn derbyn £6 miliwn bob blwyddyn gan drethdalwyr, ac mae Whittingdale yn mynnu gwybod pam na chafodd ymchwiliad ei gynnal ganddyn nhw yn dilyn yr honiadau.

Yn dilyn yr honiadau, mae Tony Minichiello, sy’n hyfforddi Jessica Ennis-Hill wedi galw ar brif weithredwr UKAD, Nicole Sapstead i ymddiswyddo, gan fod lle i gredu ei bod hi eisoes yn ymwybodol o’r sefyllfa a heb weithredu.

Does gan UKAD ddim grym i ddwyn achos yn erbyn Dr Mark Bonar, ond nid oedden nhw wedi trosglwyddo’r dystiolaeth i’r Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol a UKAD wedi dweud eu bod nhw’n barod i gynnal ymchwiliad.