Fe fu newidiadau mawr yng Nghlwb Criced Morgannwg dros y gaeaf, gyda phenodi’r cyn-droellwr Robert Croft yn Brif Hyfforddwr, y cyn-wicedwr a Phrif Hyfforddwr Adrian Shaw yn is-hyfforddwr a’r cyn-Brif Hyfforddwr Alan Jones yn Llywydd y sir. Blwyddyn siomedig i Forgannwg oedd 2015 ond fel yr eglura’r Prif Weithredwr, Hugh Morris wrth ohebydd Golwg360, Alun Rhys Chivers, mae digon i fod yn obeithiol yn ei gylch yn 2016…
Hugh, mae penodi Robert Croft yn Brif Hyfforddwr ac ychwanegu Adrian Shaw at y tîm hyfforddi’n cryfhau’r ymdeimlad o Gymreictod yn y clwb, on’d yw e…
Mae hynny’n bwysig iawn. Mae ein gweledigaeth ar gyfer y clwb yn syml iawn, sef gwneud Cymru’n falch o’r hyn ry’n ni’n ei wneud ar y cae ac oddi ar y cae. Alla i ddim meddwl am ddau Gymro a dau gyn-gricedwr Morgannwg mwy balch na Robert Croft ac Adrian Shaw. Yn amlwg, Robert yw’r Prif Hyfforddwr. Mae’n swydd gyffrous iawn a heriol iawn. Ond mae ganddo fe’r nodweddion ar ei chyfer. Ac yntau’n gyn-chwaraewr Morgannwg, mae ganddo fe wybodaeth drylwyr am y gêm. Chwaraeodd e’n broffesiynol am oddeutu 23 o flynyddoedd. Chwaraeodd e ar y lefel uchaf felly mae e’n gwybod beth yw’r gofynion. Yn amlwg, dyw e ddim wedi cael llawer iawn o brofiad fel hyfforddwr ond fe gafodd e gryn brofiad eisoes fel is-hyfforddwr am sawl blwyddyn. Mae e wedi treulio peth amser gyda thîm criced Lloegr hefyd, a dw i’n credu bod ganddo fe weledigaeth glir o le mae e am i’r tîm fynd, a dw i’n credu y bydd y chwaraewyr yn ymateb i hynny.
O’r hyn welsoch chi hyd yn hyn, pwy sydd wedi creu argraff arnoch chi?
Mae ymroddiad y chwaraewyr yn gyffredinol wedi creu argraff arna’i, rhaid i fi ddweud. Bydd hynny’n cael ei brofi, yn ôl yr arfer, pan fyddwn ni’n dechrau chwarae. Mae yna awyrgylch fywiog dda o amgylch y tîm. Dw i o’r farn fod Jacques Rudolph [y capten] yn rhywun sy’n arwain drwy esiampl. Fe fydd eraill yn sefyll ochr yn ochr â fe ac eraill yn ei ddilyn e. Mae gyda ni grŵp da o chwaraewyr hŷn. Cafodd Michael Hogan aeaf rhyfeddol unwaith eto yn Awstralia. Roedd e ymhlith y tri uchaf o ran y nifer o wicedi gipiodd e yn y Sheffield Shield unwaith eto. Fe fydd Colin Ingram yn awyddus i adeiladu ar yr hyn a gyflawnodd e haf diwethaf. Ac mae’n wych cael croesawu nifer o wynebau newydd hefyd. Mae Craig Meschede yn ymuno â ni’n barhaol. Mae Nick Selman yn fatiwr agoriadol ifanc sydd â photensial sylweddol. Ac mae Timm van der Gugten yn fowliwr cyflym 25 oed. Yma, fe all e fowlio’n gyflym. Roedd hon yn adran yr oedden ni’n awyddus i’w chryfhau ac ry’n ni’n credu bod gan Timm y nodweddion i wneud hynny.
Fe all y chwaraewyr profiadol gynnig cymorth ychwanegol i’r to iau o gricedwyr o Gymru, wrth gwrs…
Yn sicr. Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n cynnal hunaniaeth Gymreig tîm Morgannwg. Does dim amheuaeth am hynny. Mae’n galonogol fod cynifer o chwaraewyr ifainc yn dod trwy ein system ni. Fe welson ni dros y 12 mis diwethaf fod David Lloyd wedi chwarae cryn dipyn o griced i’r tîm cyntaf. Mae Andrew Salter eisoes wedi chwarae tipyn o gemau i’r tîm cyntaf. Mae Aneurin Donald yn un sydd â chryn dipyn o botensial. Ac mae Ruaidhri Smith yn gorffen astudio yn y brifysgol haf yma ac ry’n ni o’r farn fod ganddo yntau gryn dalent. Mae yna grŵp o lanciau 17 a 18 oed yn dod drwodd hefyd. Dw i’n credu bod ganddyn nhw ddyfodol disglair hefyd. Mae pump o’r chwaraewyr hynny yn nhîm rhanbarthol Gorllewin Cymru ac yn nhîm dan 17 yr ECB. Ry’n ni’n credu bod gyda ni gricedwyr ifainc da yn dod drwodd. Fe allai gymryd sawl blwyddyn i un neu ddau ohonyn nhw ymsefydlu o ystyried eu hoedran. Os oes yna fylchau yn ein carfan ar hyn o bryd sydd angen eu llenwi, yna fe fyddwn ni’n eu llenwi nhw.
Fe wnaethoch chi arwyddo enw mawr ar gyfer y T20, sef Shaun Tait wrth iddo ddychweld i Forgannwg am hanner y gystadleuaeth. Pa ddylanwad ydych chi’n gobeithio y bydd e’n ei gael?
Dylanwad sylweddol iawn, gobeithio. Mae e’n bowlio’n dda ar hyn o bryd. Fe ddychwelodd e i garfan T20 Awstralia ar ddechrau’r flwyddyn. Mae’n cael ei adnabod fel un o fowlwyr cyflyma’r byd. Fe welson ni’r llynedd pan chwaraeodd e dros Swydd Essex ei fod e wedi chwalu ein prif fatwyr ar ddau achlysur. Mae ganddo fe’r gallu i wneud hynny. Fe fydd e’n ychwanegu’r sglein sydd ei angen ar ein tîm ni. Mae e wir yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Forgannwg. Fe wnaeth e fwynhau ei gyfnod yng Nghymru yn 2010 pan chwaraeodd e droson ni’r tro diwethaf.
Beth yw’r diweddaraf am arwyddo chwaraewr tramor arall ar gyfer hanner cynta’r T20?
Ry’n ni’n weithgar o hyd wrth geisio dod o hyd i chwaraewr tramor arall ar gyfer y saith gêm gyntaf. Mae Shaun [Tait] ar gael ar gyfer yr ail set o saith gêm. Ar gyfer rhan gynta’r tymor, ry’n ni’n trafod telerau gyda chwaraewr arall ac yn gobeithio cau pen y mwdwl ar y trafodaethau hynny yn yr wythnosau i ddod, a chyhoeddi’n gynnar yn y tymor fod gyda ni chwaraewr newydd.
Ai batiwr neu fowliwr fydd y chwaraewr newydd hwnnw?
Dw i ddim am ddatgelu gormod! Ond fe alla i ddweud ei fod e’n rhywun ry’n ni’n teimlo sy’n ychwanegu gwerthu at ein tîm.
A’r ychwanegiad diweddaraf at y clwb, wrth gwrs, yw’r Llywydd newydd, Alan Jones…
Rwy wrth fy modd fod Alan wedi derbyn y gwahoddiad i ddod yn Llywydd y clwb. Fe fu ei ragflaenydd David Morgan yn y rôl am bedair blynedd. Fe wnaeth e’n wych. Mae David wedi cyflawni bron popeth sy’n bosib i weinyddwr yn y byd criced. Mae yna esgidiau mawr i’w llenwi, ac alla i ddim meddwl am unrhyw un gwell i lenwi’r esgidiau hynny nag Alan Jones. Fe yw’r batiwr gorau gafodd Morgannwg erioed. Ni fydd ei recordiau sydd heb gael eu torri fyth yn cael eu torri. Fydd neb yn mynd heibio 40,000 o rediadau i’r sir. Mae ei ymroddiad dros gyfnod mor hir fel chwaraewr, hyfforddwr a mentor i gynifer ohonon ni wedi bod yn sylweddol iawn. Mae cael dyn o statws Alan Jones yn Llywydd ar Glwb Criced Morgannwg yn wych i’r clwb, a dw i’n gwybod y bydd e’n gwneud gwaith gwych.
O feddwl am yr amryw gystadlaethau, beth yw eich gobeithion ar gyfer y tymor?
Adeiladu ar y cynnydd wnaethon ni y llynedd. Ro’n i’n credu ein bod ni wedi chwarae criced da yn ystod hanner cynta’r tymor. Ro’n i’n credu bod ein diffyg niferoedd ac adnaboddau’n amlwg yn ystod ail hanner y tymor. Roedd hi’n frwydr erbyn hynny ond roedd yn ddealladwy gan ein bod ni fwy neu lai’n defnyddio tri bowliwr cyflym, ac roedd yn anodd iawn arnyn nhw. Ro’n i’n meddwl eu bod nhw wedi gwneud yn arbennig o dda i chwarae am dymor cyfan. Daethon ni’n bedwerydd y llynedd [yn y Bencampwriaeth], sy’n un o’n safleoedd uchaf ni dros y blynyddoedd diwethaf, felly mae angen i ni wella ar hynny. Ein huchelgais yn amlwg fydd ceisio cael dyrchafiad ond fe fydd yn dipyn o her. Dim ond un tîm fydd yn cael dyrchafiad eleni. Bydd rhaid i ni chwarae criced da i wneud hynny. Ac o ran criced gyda’r bêl wen, mae gyda ni garfan gytbwys dda ar gyfer y gemau 50 pelawd. Cawson ni ein cosbi dipyn y llynedd a wnaeth hynny ddim ein helpu ni wrth i ni geisio cymhwyso. Ond dw i’n credu y byddwn ni’n gystadleuol yn y fformat hwnnw a dw i’n gyffro i gyd am y T20. Mae hi wedi cael ei symud fel ei bod ychydig yn hwyrach yn yr haf ac mae’r rhan fwyaf o’n gemau ym mis Mehefin a Gorffennaf, sy’n dda iawn i ni dw i’n meddwl. Gobeithio y bydd hi’n braf ac y bydd criced da yn y Swalec SSE.
Ac mae’r clwb mewn sefyllfa gryfach yn ariannol bellach hefyd…
Un peth ry’n ni wedi canolbwyntio’n fawr arno dros y ddwy flynedd diwethaf yw ein sefyllfa ariannol. Diolch i’r trafodaethau gawson ni gyda’n credydwyr, cafodd 70% o’n dyledion eu dileu. Ry’n ni’n teimlo bod y ddyled sy’n weddill yn llawer iawn haws i’w rheoli nag o’r blaen. Byddai’n braf cael y Lludw yng Nghaerdydd bob blwyddyn ond dy’n ni ddim yn mynd i wneud hynny. Yn ariannol, fe wnaethon ni’n dda drwy’r Lludw y llynedd. Gweithiodd y staff yn eithriadol o galed, gan gyflwyno tipyn o sioe ac fe gawson ni ein gwobrwyo’n ariannol. Dim ond dau ddiwrnod o griced rhyngwladol sydd gyda ni eleni, felly bydd ein hincwm yn llai o lawer, felly bydd angen i ni gadw trefn ar ein cyllideb.
Diolch am y sgwrs, a phob dymuniad da ar gyfer y tymor i ddod.