Y Seintiau Newydd 5–0 Cei Connah                                           

Mae’r Seintiau Newydd yn rownd derfynol Cwpan Cymru ar ôl rhoi cweir iawn i Gei Connah ar Barc Latham, y Drenewydd yn y rownd gynderfynol brynhawn Sadwrn.

Rhwydodd Scott Quigley hatric a sgoriodd y Seintiau bump i gyd wrth i’r deiliaid sicrhau eu lle yn y ffeinal gydag Airbus.

Aeth y Seintiau Newydd ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf gyda gôl syml i Quigley wedi i groesiad Jamie Mullan daro’r postyn.

Dyblodd y deiliaid eu mantais funud yn unig yn ddiweddarach pan grymanodd Matty Williams ergyd gywir i gefn y rhwyd o ugain llath.

Bu rhaid i Paul Harrison fod yn effro i atal ergyd isel Les Davies yn y pen arall cyn i Mullan sgorio trydedd y Seintiau yn dilyn cyd chwarae da rhyngddo ef ac Aeron Edwards.

Bu bron i’r Nomadiaid dynnu un yn ôl yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner ond cafodd cynnig Jamie Crowther ei glirio oddi ar linell gôl y Seintiau gan chwaraewr Cei Connah, Wes Baynes!

Rhwydodd Quigley ei ail ef a phedwaredd ei dîm toc cyn yr awr wrth iddo dorri’r trap camsefyll a llithro’r bêl o dan John Danby yn y gôl.

Cwblhaodd yr ymosodwr ei hatric yn fuan wedyn gyda gôl unigol dda, yn torri i mewn o’r dde cyn crymanu ergyd droed chwith i gefn y rhwyd.

Bydd tîm Craig Harrison yn wynebu Airbus yn y rownd derfynol wedi iddynt hwy drechu Port Talbot o saith i ddim yn y gêm gynderfynol arall yn gynharach ar Barc Latham.

.

Y Seintiau Newydd

Tîm: Harrison, Spender, Rawlinson, K. Edwards, Marriott, Seargeant, A. Edwards, Mullan, Williams (Cieslewicz 69’), Brobbel (Wilde 87’), Quigley (Draper 87’)

Goliau: Quigley 22’, 57’, 66’, Williams 23’, Mullan 41’

.

Cei Connah

Tîm: Danby, Baynes, Horan, Linwood (Rimmer 58’), Smith, Disney, Morris, Crowther (Miller 79’), Ruane (N. Rushton 54’), Woolfe, Davies