Forest Green 0–0 Wrecsam                                                           

Cafodd Wrecsam gêm gyfartal  yn erbyn Forest Green ar y New Lawn brynhawn Sadwrn er iddynt orffen y gêm yn y Gynghrair Genedlaethol gyda naw dyn.

Cafodd yr ymwelwyr o ogledd Cymru gêm ddi sgôr yn erbyn y tîm sydd yn ail yn y tabl er i Hudson a Jennings gael eu hanfon o’r cae yn yr ail hanner.

Y tîm cartref a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf a bu rhaid i Robbie Evans fod yn effro i glirio peniad James Jennings oddi ar y lein.

Aeth y Dreigiau i lawr i ddeg dyn ddeunaw munud o’r diwedd pan welodd Blaine Hudson gerdyn coch ac roedd yr ymwelwyr i lawr i naw ychydig funudau’n ddiweddarach wedi i Connor Jennings dderbyn ail gerdyn melyn.

Daliodd y Deigiau eu gafael serch hynny gan sicrhau pwynt gyda chanlyniad di sgôr.

Nid yw’r pwynt hwnnw yn fawr o gymorth i Wrecsam yn y tabl serch hynny, maent yn aros yn wythfed, dri phwynt y tu ôl i Tranmere sydd yn bumed.

.

Forest Green

Tîm: Arnold, Bennett, Clough, Marsh-Brown (Parkin 70’), Jennings, Racine, Wedgbury, Kelly, Carter, Frear, Guthrie

Cardiau Melyn: Racine 31’, Wedgbury 36’, Marsh-Brown 61’, Guthrie 65’

.

Wrecsam

Tîm: Taylor, Vidal (York 67’), Smith Heslop, Newton, Evans, Carrington, Hudson, Jennings, Fyfield, Jackson (O’Reilly 80’)

Cardiau Melyn: Smith 61’, Jennings 66’, 75’, Heslop 90’

Cardiau Coch: Hudson 72’, Jennings 75’

.

Torf: 2,246