Yeovil 1–0 Casnewydd                                                                     

Roedd un gôl yn ddigon i Yeovil wrth i’r tîm cartref guro Casnewydd ar Huish Park yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Chwarter awr yn unig a oedd ar y cloc pan rwydodd Jack Compton o’r smotyn ac felly yr arhosodd hi am weddill y gêm.

Cafodd Tavhon Campbell ei lorio yn y cwrt cosbi gan Danny Holmes a chadwodd Campbell ei ben i sgorio o ddeuddeg llath.

Wnaeth yr Alltudion ddim bygwth llawer o flaen gôl wrth iddynt golli am y bedwaredd gêm gynghrair yn olynol.

Maent yn llithro i’r unfed safle ar hugain yn nhabl yr Ail Adran ond yn aros ddeuddeg pwynt yn glir o safleoedd y gwymp.

.

Yeovil

Tîm: Krysiak, Roberts, Sokolik, Smith, Dickson, Dolan (Tozier 77’), Laird, Shephard, Jeffers (Bird 59’), Compton (Dawson 51’), Campbell

Gôl: Compton [c.o.s.] 15’

Cardiau Melyn: Campbell 45’, Smith 73’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Holmes, Jones, Donacien (Meechan 88’), Davies, Rodman, O’Sullivan, Byrne, Elito, Bode, Coulibaly (John-Lewis 65’)

Cardiau Melyn: Byrne 10’, Rodman 45’, Donacien 86’

.

Torf: 4,063