Caerdydd 2–1 Derby                                                                          

Mae gobeithion Caerdydd o gyrraedd gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth yn fyw o hyd diolch i fuddugoliaeth gartref yn erbyn Derby yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn.

Stuart O’Keefe a sgoriodd y gôl holl bwysig wrth i’r Adar Gleision gipio tri phwynt gwerthfawr yn erbyn un o’r timau eraill sydd yn y frwydr am safle yn y chwech uchaf.

Derby a gafodd y gorau o’r meddiant yn yr hanner cyntaf ond Caerdydd a aeth ar y blaen wyth munud cyn yr egwyl pan beniodd Bruno Ecuele Manga gic gornel Peter Wittingham i gefn y rhwyd.

Roedd Derby yn gyfartal wedi dim ond pedwar munud o’r ail hanner, er i ergyd wreiddiol Chris Martin gael ei hatal fe rwydodd y blaenwr ar yr ail gyfle.

Cafodd Craig Noone a Scott Malone gyfleoedd i adfer mantais Caerdydd ond llwyddodd Scott Carson yn y gôl i Derby i atal y ddau.

Roedd y dorf o 28,680 yn record i Gaerdydd yn Stadiwm y Ddinas ac fe gafodd y cefnogwyr cartref weld buddugoliaeth diolch i gôl O’Keefe hanner ffordd trwy’r ail hanner. O gic gornel Wittingham y daeth y gôl yma hefyd, Sean Morrison yn penio’r bêl i lwybr O’Keefe y tro hwn ac yntau’n sgorio.

Mae Caerdydd yn aros yn seithfed yn nhabl y Bencampwriaeth er gwaethaf y fuddugoliaeth ond dau bwynt sydd bellach yn eu gwahanu hwy a Derby yn y chweched safle holl bwysig gyda saith gêm yn weddill.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Peltier, Morrison, Ecuele Manga, Malone, Noone (Lawrence 90’), O’Keefe (Dikgacoi 88’), Ralls, Whittingham, Pilkington (Gunnarsson 78’), Immers

Goliau: Ecuele Manga 37’, O’Keefe 68’

Cardiau Melyn: Pilkington 45’, Pilkington 80’

.

Derby

Tîm: Carson, Hanson, Keogh, Shackell, Olsson, Butterfield (Blackman 82’), Thorne (Russell 76’), Bryson, Ince, Martin, Johnson

Gôl: Martin 49’

Cerdyn Melyn: Shackell 45’

.

Torf: 28,680