Stoke 2–2 Abertawe                                                                          

Tarodd Abertawe yn ôl i gipio pwynt ar ôl bod ddwy gôl ar ei hôl hi yn erbyn Stoke yn Stadiwm Britannia brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Afalley a Bojan y tîm cartref ar y blaen cyn i goliau Sigurdsson a Paloschi achub gêm gyfartal i’r ymwelwyr o Gymru.

Roedd Stoke ar y blaen wedi llai na chwarter awr diolch i beniad Ibrahim Afellay o groesiad Marko Arnautovic.

Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ond dyblodd tîm Mark Hughes eu mantais yn gynnar yn yr ail gyfnod pan rwydodd Bojan gydag ergyd dda o du allan i’r cwrt cosbi.

Wnaeth yr Elyrch ddim rhoi’r ffidl yn y to serch hynny ac roeddynt yn ôl yn y gêm hanner ffordd trwy’r ail hanner, Gylfi Sigurdsson yn troi ac ergydio i rwydo o groesiad Wayne Routledge.

A chipiodd Abertawe bwynt pan wyrodd ergyd Alberto Paloschi i gefn y rhwyd ddeuddeg munud o’r diwedd, ychydig funudau yn unig wedi iddo ddod i’r cae fel eilydd.

Mae’r gêm gyfartal yn cadw’r Cymry yn bymthegfed yn nhabl yr Uwch Gynghrair ac yn eu cadw ddeg pwynt yn glir o safleoedd y gwymp.

.

Stoke

Tîm: Haugaard, Bardsley, Cameron, Wollscheid, Pieters, Whelan (Ireland 81’), Imbula, Afellay, Bojan (Diouf 74’), Arnautovic, Joselu

Goliau: Affaley 13’, Bojan 53’

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Rangel, Fernandez, Williams, Naughton (Taylor 82’), Cork, Britton (Montero 61’), Fer, Sigurdsson, Gomis (Paloschi 71’), Routledge

Goliau: Sigurdsson 68’, Paloschi 79’

Cerdyn Melyn: Williams 21’

.

Torf: 27,649