Un o'r ffrwydradau ym Mrwsel wedi taro'r maes awyr
Fe fydd tair awyren yn gadael Brwsel ddydd Sul am y tro cyntaf ers i’r maes awyr gael ei gau 12 diwrnod yn ôl yn dilyn ymosodiadau brawychol ledled prifddinas Gwlad Belg.

Bydd yr awyrennau’n teithio i Athen, Torino a Faro ym Mhortiwgal.

Mae disgwyl i’r maes awyr allu prosesu teithiau 800 o deithwyr bob awr erbyn dydd Llun, ac mae disgwyl i’r holl wasanaethau gael eu cyflwyno’n llawn erbyn dechrau mis Gorffennaf.

Cafodd 32 o bobol eu lladd a 270 eu hanafu mewn cyfres o ffrwydradau ar Fawrth 22.