Bachgen yn cerdded trwy’r pebyll yn y gwersyll ffoaduriaid yn Idomeni yng ngogledd Gwlad Groeg heddiw (AP Photo/Darko Vojinovic)
Mae gwylwyr y glannau Twrci wedi rhwystro dwsinau o ffoaduriaid a oedd yn ceisio cyrraedd ynys Lesbos yng ngwlad Groeg.
Dywedodd swyddog yn nhalaith Izmir fod 63 o bobl wedi cael eu dal ym Môr Aegea a’u cymryd i dref Dikili yn Nhwrci.
Mae hyn yn digwydd ddau ddiwrnod cyn i gytundeb rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Twrci i leihau’r llif o fudwyr anghyfreithlon ddod i rym.
O dan y cytundeb hwn, bydd mudwyr sy’n cyrraedd yn anghyfreithlon yng Ngwlad Groeg o Twrci yn cael eu hanfon yn ôl oni bai eu bod yn ceisio am loches a’r cais yn cael ei dderbyn.
Mae Dikili yn un o’r pwyntiau cofrestru ar gyfer mudwyr sy’n cael eu hanfon yn ôl i Twrci.
Protest
Yn y cyfamser, mae dros 200 o ffoaduriaid yn cynnal protest ar briffordd sy’n cysylltu Gwlad Groeg a Macedonia, yn galw ar i Facedonia agor ei ffiniau a chaniatáu iddyn nhw barhau â’u teithiau i ganolbarth a gogledd Ewrop.
Mae’r brotest yn cael ei chynnal 10 milltir o’r gwersyll yn nhref Idomeni ar y ffin, lle mae tua 11,000 heb unman i fynd ers i Faconia a eraill ymhellach i’r gogledd gau’r drws arnynt.