(llun: CC BY-SA 2.5)
Gallai’r niferoedd o deigrod yn y byd dreblu yn yr 20 mlynedd nesaf os gwneir digon i adfer eu cynefinoedd.
Dyna yw barn gwyddonwyr sy’n gobeithio bod y cathod mawr hyn ar fin troi’r gornel ar ôl canrif o golli tir yn barhaus.
Yr amcangyfrif yw mai dim ond tua 3,200 o deigrod gwyllt sydd ar ôl yn Asia bellach, o gymharu â dros 100,000 gan mlynedd yn ôl.
Mae gwledydd lle mae teigrod yn byw wedi ymrwymo i ddyblu niferoedd teigrod gwyllt erbyn 2022.
Mae astudiaeth o luniau lloeren yn dangos bod digon o gynefinoedd gwyllt yn dal ar ôl i hyn allu digwydd.
Dywed gwyddonwyr y gellir sicrhau cynnydd pellach trwy ddatblygu ‘coridorau’ cadwraeth rhwng gwahanol warchodfeydd, a fyddai’n galluogi’r anifeiliaid i ymestyn eu tiriogaeth ac osgoi mewnfridio.