Achubwyr ar safle'r trychineb yn Kolkata ddydd Iau (llun: PA)
Mae’r heddlu yn India yn ystyried dwyn cyhuddiadau o lofruddiaeth yn erbyn 10 o adeiladwyr a gafodd eu harestio ar ôl i bont ddymchwel yn Kolkata.
Cafodd o leiaf 26 o bobl eu lladd yn y trychineb ddydd Iau, a chafodd 69 eu hachub o’r rwbel. Mae ofnau y gall rhagor o gyrff fod o dan y rwbel.
Mae’r adeiladwyr, sy’n gweithio i gwmni contractwyr y datblygiad, yn cael eu holi ynghylch cyhuddiadau posibl o lofruddiaeth a dynladdiad beius, y gellir eu cosbi â’r gosb eithaf neu garchar am oes, a thor ymddiriedaeth troseddol, a all olygu carchar am hyd at saith mlynedd.
Cafodd y cwmni, IVRCL Infrastructure, y contract i adeiladu’r bont yn 2007 a’r disgwyl oedd i’r gwaith gymryd dwy flynedd, ond maen nhw ymhell ar ei hôl hi.
Roedd y bont yn cael ei hadeiladu i hwyluso traffig thrwy gymdogaeth brysur Bara Bazaar yn y ddinas. Gyda thua 70% o’r gwaith adeiladu wedi’i gwblhau, disgynnodd o fewn oriau i goncrid gael ei dywallt i fframwaith o ddur ddydd Iau.