Kezia Dugdale, arweinydd Llafur yr Alban (llun o'i gwefan)
Parhau i ddadlau ynghylch annibyniaeth y mae pleidiau’r Alban yn ymgyrch etholiad senedd y wlad ar 5 Mai.

Mae’r arweinydd Llafur, Kezia Dugdale, wedi gwrth-ddweud ei hun ar ôl sylw a wnaed ganddi ar y pwnc yn gynharach yn yr wythnos.

Roedd hi wedi lled awgrymu mewn cyfweliad na fyddai’n “gwbl amhosibl” y gallai gefnogi annibyniaeth i’r Alban petai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Cyhoeddodd ddatganiad yn fuan wedyn yn dweud y byddai Llafur yn gwrthwynebu ail refferendwm ar annibyniaeth.

“Fe fyddwn yn pleidleisio dros aros yn y Deyrnas Unedig mewn unrhyw refferendwm yn y dyfodol,” meddai.

Beirniadu’r anghysondeb

Mae’r arweinydd y Ceidwadwyr yn yr Alban, Ruth Davidson, wedi beirniadu sylwadau anghyson Kezia Dugdale.

“Ni ellir ymddiried ym mhlaid Lafur yr Alban i amddiffyn penderfyniad dwy filiwn o Albanwyr i aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig,” meddai.

“Mae’r syniad fod lle’r Alban yn y Deyrnas Unedig yn ddibynnol ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd yn sarhaus.

“Fe wnaeth yr Alban helpu i adeiladu’r Deyrnas Unedig ac mae’n rhan annatod ohoni.”

Mae hi hefyd yn cyhuddo Prif Weinidog yr Alban o amharchu canlyniad refferendwm 2014 ar ôl i Nicola Sturgeon ddweud mai “yn nwylo’r bobl” yr oedd unrhyw benderfyniad am refferendwm arall yn y dyfodol.

Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban, Willie Rennie, mai dim ond ei blaid ef oedd yn ddiamwys o blaid lle’r Alban yn y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.

“Gyda dryswch Llafur ynghylch annibyniaeth a rhaniadau’r Ceidwadwyr ynghylch Ewrop, mae’r SNP wrth eu boddau gyda’r rhagolygon o ddadl arall ar annibyniaeth,” meddai.