Taipei (Llun: Wicipedia)
Mae pen merch deirblwydd oed wedi’i dorri ymaith mewn ymosodiad ar hap y tu allan i orsaf drenau Metro ym mhrifddinas Taiwan.

Mae dyn wedi’i arestio yn dilyn y digwyddiad yn Taipei.

Yn ol adroddiadau, fe afaelodd y dyn yn y ferch fach, a thorri ei phen ymaith gyda bwyell hollti. Roedd y ferch gyda’i mam ar y pryd.

Oriau’n ddiweddarach, mae torf ddig wedi ymgynnull y tu allan i’r swyddfa heddlu lle y mae’r dyn yn cael ei ddal.

Mae asiantaeth newyddion llywodraeth y wlad, Central, wedi dweud fod gan y dyn record droseddol yn cynnwys troseddau’n ymwneud efo cyffuriau. Mae hefyd wedi derbyn triniaeth am salwch meddwl.