Mae dringwr profiadol wedi marw yn yr ysbyty, wedi iddo syrthio ym mynyddoedd y Cairngorms yn yr Alban ddydd Gwener.

Roedd Peter Nielsen, 32, yn yr ardal sy’n cael ei galw ‘Aladdin’s Buttress’ pan ddigwyddodd y ddamwain.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw, ac fe gafodd Peter Nielson ei gludo i Ysbyty Raigmore yn Inverness. Bu farw yno o ganlyniad i’w anafiadau.

Yn ol Heddlu’r Alban, roedd Peter Nielsen, o Tranent, Dwyrain Lothian, yn ddringwr profiadol a oedd yn y Cairngorms gyda grwp o ddringwyr eraill profiadol.