Malala Yousafzai
Mae Malala Yousafzai wedi condemnio’r “lladd disynnwyr” yn ei gwlad enedigol, wedi i ymosodiad terfysgol ladd 70 o bobol ar Sul y Pasg.
Mae Pacistan gyfan yn cynnal tridiau o alaru yn dilyn yr ymosodiad gan hunanfomiwr mewn parc yn Lahore.
“Mae’r newydd am ladd disynnwyr pobol ddiniwed yn Lahore wedi fy llorio i,” meddai’r enillydd Gwobr Heddwch Nobel deunaw oed sydd bellach yn byw yn Birmingham.
“Mae fy nghalon i’n gwaedu dros y dioddefwyr, eu teuluoedd a’u ffrindiau. Dw i’n condemnio’r ymosodiad hwn.”
Galwodd ar i Bacistan a’r byd i gyd i sefyll ysgwydd ag ysgwydd.
Fe gafodd mwy na 300 o bobol eu hanafu yn yr ymosodiad. Mae grwp sydd wedi torri i ffwrdd oddi wrth y Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad, ac wedi cadarnhau ei fod wedi targedu’n benodol y gymuned Gristnogol ar Sul y Pasg.