Mae un o awyrennau mwya’r byd wedi glanio am y tro cynta’ erioed ym Maes Awyr Birmingham.

Mae’r awyren Airbus A380, sy’n mesur 238 troedfedd o hyd, yn perthyn i gwmni Emirates Airlines.

Mae lle arni ar gyfer 557 o deithwyr (economi) a 58 o deithwyr yn yr adran fusnes. Y bwriad ydi cynyddu nifer y bobol sy’n teithio’n ddyddiol i’r Dwyrain Canol o 15%.

Mae’r awyren drawiadol yn pwyso dros 560 tunnell.