Mae tri o bobol yng ngwlad Belg wedi cael eu cyhuddo o gymryd rhan mewn gweithgareddau terfysgol.
Roedd y tri ymhlith y pedwar gafodd eu harestio mewn cyrchoedd yn ninas Brwsel a dinasoedd Mechelen a Duffel yng ngogledd y wlad ddydd Sul y Pasg.
Dyw’r erlynwyr yng ngwlad Belg ddim wedi cadarnhau eto a ydi’r tri wedi’u cyhuddo o fod yn rhan o’r ymosodiadau ar faes awyr a gorsaf drenau Metro dinas Brwsel ar Fawrth 22. Ond mae’r pedwerdydd unigolyn wedi’i ryddhau yn ddi-gyhuddiad.
Mae’r tri sydd wedi’u cyhuddo wedi’u henwi’n unig fel Yassine A, Mohamed B ac Aboubaker O.