Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybdoaeth yn dilyn lladrad yn un o siopau bwyd Aberyswyth ar Sul y Pasg.
Fe ddigwyddodd y lladrad yn y Premier Store ar Rodfa’r Gogledd tua 8.40yh.
Mae’r heddlu’n chwilio am ddyn 30-35 oed mewn cysylltiad a’r digwyddiad. Roedd yn gwisgo hwdi o liw llwyd neu las, masg sgio du, ac roedd yn cario bag.
Wedi iddo adael y siop, fe drodd i gyfeiriad Stryd Thesbis.
Chafodd neb ei anafu yn y digwydd, ond mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud fod y dyn wedi gadael y siop gydag arian.