Mae heddlu yn yr Iseldiroedd a arestiodd Ffrancwr yn Rotterdam ddoe, yn dweud fod arfau, cyffuriau ac arian wedi’u canfod yn y ty.
Roedd yr heddlu’n ymateb i gais arbennig gan awdurdodau Ffrainc, a oedd yn poeni fod y Ffrancwr 32 oed yn rhan o gynllwyn i gynnal ymosodiad terfysgol yn Ewrop.
Mae’r broses ar droed i geisio ei ystraddodi i Ffrainc gynted a phosib.