Mae un o draffydd gogledd Lloegr wedi’i chau, wedi i ddyn gael ei ladd wrth i’w gar blymio i mewn i afon.

Fe ddaeth Heddlu De Swydd Efrog o hyd i gorff y dyn wrth i’r cerbyd gael ei dynnu o ddwr afon Don ger traffordd yr A1M.

Mae’r lonydd sy’n anelu am y gogledd ar wedi’u cau rhwng cyffyrdd 36 a 37.

Mae gyrwyr yn cael eu cynghori i osgoi’r ardal.

Fe gafodd Heddlu De Swydd Efrog eu galw tua 6.30yb heddiw, yn dilyn adroddiadau fod y car wedi mynd i’r afon.