Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi y bydd hi’n buddsoddi £372m ym maes awyr Y Fali, gan ddiogelu 470 o swyddi yno tan y flwyddyn 2020.

Mae’r fflyd o awyrennau Hawk sydd yno – y TMk1 a’r TMk2 – yn cael eu defnyddio gan luoedd arfog gwledydd Prydain ar gyfer hyfforddi, cyn iddyn nhw symud i faes y gad a defnyddio awyrennau jet cyflym eraill.

Mae’r Llynges Brydeinig a’r Llu Awyr Brenhinol hefyd yn defnyddio’r awyrennau at ddibenion hyfforddi.

Mae’r cytundeb diweddara’ hwn, a fydd yn para pum mlynedd, yn allweddol ar gyfer cadw maes awyr Y Fali’n agored. Mae’r canolbwyntio penodol ar yr awyren Hawk yn rhan o gynllun ehangach sy’n cynnwys meysydd awyr eraill yn Sir Efrog, Sir Gaerhirfryn, Gwlad yr Haf a Chernyw.