Pab Ffransis
Heddiw, fe ddefnyddiodd y Pab Ffransis ei bregeth y Pasg i feirniadu “y derfysgaeth ddall” sydd wedi lladd cymaint o bobol ddiniwed yn Ewrop, Affrica a mannau eraill yn y byd. Fe ddywedodd hefyd ei fod yn siomedig yn y diffyg croeso y mae ffoaduriaid yn ei gael yn y gorllewin wedi iddyn nhw ddianc rhag rhyfel a thlodi.

Yn Sgwar St Pedr heddiw, a than reolau diogelwch llym, fe ddaeth degau o filoedd o bobol i’r Fatican i wrando ar arweinydd yr Eglwys Babyddol yn traddodi ei bregeth flynyddol.

“Ar gyfer y ffyddloniaid, fe gododd Iesu ar y trydydd dydd wedi’r croeshoelio, gan gyhoeddi buddugoliaeth tros ddrygioni a phechod,” meddai’r Pab. “Rwy’n gobeithio y bydd hynny’n ein dwyn ni’n agosach at ddioddefwyr terfysgaeth, y math yna o derfysgaeth ddall a thrais creulon.”

Yn ei bregeth, fe gyfeiriodd yn benodol at yr ymosodiadau terfysgol yng ngwlad Belg, Twrci, Nigeria, Chad, Cameroon, Y Traeth Ifori ac Irac, ac fe alwodd neges y Pasg yn “neges o fywyd ar gyfer dynoliaeth gyfan”.

“Mae’r Pasg yn ein gwahodd ni, nid i anghofio am y dynion a’r merched hynny sy’n chwilio am ddyfodol gwell, nac am y nifer cynyddol o ffoaduriaid a mudwyr sy’n ffoi rhag rhyfel, newyn, tlodi ac anghyfiawnder… ond yn rhy aml, mae ein brodyr a’n chwiorydd yn cael eu trin mor ddigroeso, pan y dylem ni geisio sicrhau lloches a diogelwch iddyn nhw.”