Mae pump o bobol wedi’u harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, yn dilyn diflaniad dyn 43 oed.

Fe dderbyniodd yr heddlu alwad ar ddydd Gwener y Groglith yn mynegi pryder ynghylch Jimmy Prout o Percy Main, North Shields. Does neb wedi’i weld ers wythnosau.

Fe gynhaliwyd ymchwiliad i amgylchiadau ei ddiflaniad, ac fe arweiniodd hynny y ditectifs i gredu ei fod wedi’i lofruddio – er nad oes corff wedi’i ganfod. Dyw ei ffrindiau na’i deulu ddim wedi’i weld ers dechrau Chwefror.

Mae dau ddyn, 26 a 42 oed, ynghyd â thair menyw, 55, 49 a 25 oed, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.