Mae Heddlu De Cymru yn dweud eu bod nhw’n pryderu’n fawr am ddiogelwch dyn 20 oed sydd ar goll o’r Porth yn y Rhondda.
Does neb wedi gweld Shawn Ryan Mardon ers dydd Mercher diwethaf, Mawrth 23.
Ar y pryd, roedd yn gwisgo côt ‘puffa’ ddu, trowsus loncian o liw llwyd, trenars glas tywyll am ei draw, a chap pêl-fâs am ei ben.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth berthnasol gysylltu â’r heddlu ar y rhif 101.