Palmyra
Mae lluoedd Syria, gyda chefnogaeth ymosodiadau o’r awyr gan Rwsia, wedi gyrru’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) allan o dref hynafol Palmyra. Mae’r dre’ wedi bod dan reolaeth IS ers mis Mai y llynedd.
Ers bron i dair wythnos, mae lluoedd llywodraeth y wlad wedi bod yn ceisio cipio’r dref yn ôl. Mae’n dre’ a oedd yn arfer bod yn un o leoliadau twristaidd mwya’ Syria, oherwydd fod cymaint o olion ac atyniadau yno’n dyddio o gyfnod y Rhufeiniaid.
Mae teledu’r wlad wedi bod yn dyfynnu swyddog y fyddin heddiw’n dweud fod “y lluoedd arfog… wedi cymryd rheolaeth lwyr o Palmyra”.
Mae gweithwyr y sefydliad o Bryain sy’n ceisio gwarchod hawliau dynol yn yr ardal, y Syrian Observatory for Human Rights, hefyd wedi cadarnhau fod IS wedi colli eu gafael ar y dre’.