"Y dyn mewn gwyn" ym maes awyr Brwsel
Mae tri o ddynion wedi’u cyhuddo o droseddau terfysgol yn ymwneud â’r ymosodiadau yn ninas Brwsel.
Fe gafodd beth bynnag 32 o bobol eu lladd, a 270 eu hanafu, pan ffrwydrodd dyfeisiau hunanfomwyr ym maes awyr y ddinas ac mewn gorsaf drenau tanddaearol ddydd Mawrth diwetha’.
Fe gafodd dyn o’r enw Faycal C ei gyhuddo ddydd Sadwrn o “fod yn rhan o grwp terfysgol, o lofruddiaeth derfysgol ac o geisio llofruddio”. Roedd wedi ei arestio ddydd Iau, ond fe fethodd yr heddlu â darganfod unrhyw arfau na ffrwydron yn ei gartre’.
Yn ôl y cyfryngau yng ngwlad Belg, dyn o’r enw Faycal Cheffou ydi’r “dyn mewn gwyn” mewn lluniau teledu cylch cyfyng o dri o ddynion yn cerdded i mewn i faes awyr Brwsel. Mae’r cyhuddwyr wedi gwrthod cadarnhau hynny, ond maen nhw wedi cyhoeddi enwau’r ddau ddyn arall sydd wedi’u harestio, fel Rabah N a Aboubakar A.
Maen nhw ill dau wedi’u cyhuddo o “fod â rhan yng ngweithredoedd grwp terfysgol”.
Mae pedwerydd dyn, a gafodd ei ddwyn i’r ddalfa ddydd Gwener ar ôl cael ei saethu gan heddlu mewn safle bysiau yn ninas Brwsel, yn cael ei ddal am 24 awr yn rhagor.