Mae pwysau ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad annibynnol ar gyflwr Gwasanaeth Iechyd y wlad.

Daw’r galwadau gan y Ceidwadwyr Cymreig sydd wedi beirniadu’r llywodraeth am y cynnydd yn nifer y digwyddiadau difrifol o fewn y gwasanaeth dros y pum mlynedd ddiwethaf.

Mae’r ffigurau yn dangos bod y digwyddiadau hyn sy’n cynnwys achosion a arweiniodd at farwolaeth annisgwyl claf neu a achosodd niwed difrifol i glaf, aelod o staff neu aelod o’r cyhoedd, wedi mwy na dyblu.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod hyn am ei bod wedi gofyn i’r Gwasanaeth Iechyd gynnwys rhagor o ddigwyddiadau yn eu cofnodion, fel heintiau a briwiau difrifol.

Fodd bynnag, mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar AC, yn dweud bod y ffigurau’n dangos “nifer gynyddol o fethiannau gwarthus yng ngofal Gwasanaeth Iechyd y blaid Lafur.”

Byrddau Iechyd

Yn ôl y ffigurau, mae nifer y digwyddiadau difrifol a ddigwyddodd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi treblu o 100 yn 2011-12 i 303 yn 2014-15.

Ac ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, cynyddodd y ffigwr o 25 i 82 yn yr un cyfnod, gyda rhai Abertawe Bro Morgannwg hefyd yn dyblu o 91 i 180 o achosion.

Cynyddodd y digwyddiadau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf hefyd, o 46 i 102 ac yng Nghaerdydd a’r Fro o 51 i 97.

“Pryder mawr”

“Mae digwyddiadau fel hyn lle gall gleifion gael niwed difrifol neu farw yn gallu cael eu hosgoi a dylen nhw fyth ddigwydd,” meddai Darren Millar AC.

“Mae’r ffaith eu bod nhw’n codi ac wedi treblu mewn rhai Byrddau Iechyd mewn blynyddoedd diweddar yn bryder mawr ac yn rhoi tystiolaeth bellach o effaith toriadau Llafur ar gyllid y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.”

Dywedodd ei fod wedi bod yn galw am ymchwiliad annibynnol i’r Gwasanaeth Iechyd ond bod Gweinidogion Llafur yn “parhau i gladdu eu pennau yn y tywod ac yn gwrthod comisiynu gwaith o’r fath.”

“Beth maen nhw’n ceisio ei guddio?” meddai.

“Ymgais flêr” y Torïaid

Galwodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford, sylwadau Darren Millar fel “ymgais flêr arall i ymosod ar Wasanaeth Iechyd Cymru.”

“Mae nifer y digwyddiadau wedi cynyddu gan ein bod wedi gofyn i’r Gwasanaeth Iechyd gofnodi mwy o bethau, fel heintiau a briwiau gradd 3 a 4,” meddai.

“Mae staff y Gwasanaeth Iechyd yn cael eu hannog i gofnodi pob digwyddiad, gan gynnwys achosion lle roedd rhywbeth bron â digwydd.

“Mae amgylchedd o gofnodi pob digwyddiad yn adlewyrchu diwylliant diogel agored.”