Curtis Banfield (llun gan Heddlu De Cymru)
Mae Heddlu De Cymru’n apelio am wybodaeth am lanc ifanc sydd wedi bod ar goll ers dydd Llun.

Mae Curtis Banfield yn 17 oed, yn 5 troedfedd 8 modfedd o daldra ac mae ganddo wallt cyrliog byr.

Mae’r heddlu’n pryderu am ei ddiogelwch, ac yn credu ei fod naill ai o gwmpas Treforys neu ganol dinas Abertawe.

Maen nhw’n gofyn ar i unrhyw un â gwybodaeth eu ffonio ar 101 neu’n ddienw ar 0800 555111, gan nodi cyfeirnod 1600102845.