Mo Farah (llun o wefan Caerdydd2016)
Trydydd oedd y rhedwr Mo Farah ym mhencampwriaethau hanner marathon y byd yng Nghaerdydd y prynhawn yma.

Geoffrey Kamworor o Kenya oedd yr enillydd gan ddal gafael ar ei deitl er iddo syrthio ar gychwyn y ras. Cwblhaodd y ras mewn 59 munud 10 eiliad, a oedd eiliad yn arafach na’r record a osododd yn Copenhagen ddwy flynedd yn ôl.

Er hyn, roedd bron i funud ar y blaen i Mo Farah a orffennodd y ras mewn eiliad llai nag awr.

Mae gan Kamworor reswm arall dros ddathlu ar ôl iddo dod yn ail i Mo Farah yn ras 10,000 metr pencampwriaethau athletau’r byd yn Beijing yr haf diwethaf.

Tîm Kenya oedd yr enillwyr clir y prynhawn yma, ar ôl i Brendan Karoki ddod yn ail yn ras y dynion a Peres Jepchirchir ennill ras y merched a dwy o’i chydwladwyr yn ail a thrydydd iddi.