Yr adfeilion Rhufeinig a fu'n sefyll yn Palmyra am ganrifoedd (llun: Wikipedia)
Mae lluoedd llywodraeth Syria yn ennill tir yn Palmyra, y ddinas â’r adfeilion Rhufeinig hanesyddol a ddisgynodd i ddwylo’r Wladwriaeth Islamaidd fis Mai y llynedd.

Yn ôl ymgyrchwyr hawliau dynol yn y wlad, mae milwyr y llywodraeth, gyda help ymosodiadau o’r awyr gan Rwsia, wedi cipio tair cymdogaeth yn y ddinas.

Arferai Palmyra ddenu degau o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn, ond mae’r Wladwriaeth Islamaidd wedi dinistrio rhai o adfeilion mwyaf adnabyddus y safle â statws treftadaeth y byd Unesco.

Byddai ail-gipio’r ddinas gyfan yn fuddugoliaeth fawr i lywodraeth yr Arlywydd Bashar Assad, sydd wedi adennill tir oddi ar y Wladwriaeth Islamaidd dros y misoedd diwethaf.