Maes awyr Brwsel wedi'r ffrwydradau fore Mawrth (llun: PA)
Ni fydd unrhyw awyrennau’n cyrraedd nac yn gadael maes awyr Brwsel cyn dydd Mawrth o leiaf, wrth i beirianwyr asesu’r difrod a wnaed gan y ddau ffrwydrad.
Er bod yr heddlu wedi cwblhau eu harchwiliad nhw yn y maes awyr, mae llawer o waith i’w wneud ar wirio diogelwch yr adeilad a’r systemau technoleg gwybodaeth, ac asesu pa mor hawdd fydd atgyweirio’r difrod.
Dywed y cwmni sy’n rhedeg y maes awyr eu bod nhw wrthi ar hyn o bryd yn chwilio am ateb dros dro i ailgychwyn gwasanaethau awyren i deithwyr. Fe fydd angen iddyn nhw hefyd gynnwys mesurau diogelwch newydd a benderfynir gan y llywodraeth ffederal.
Ymchwiliadau’r heddlu’n parhau
Yn y cyfamser, parhau mae ymchwiliadau’r heddlu i’r ffrwydradau a laddodd 32 o bobl ac anafu 270 fore dydd Mawrth.
Mae tri dyn yn dal yn y ddalfa ar ôl iddyn nhw, ynghyd â thri arall sydd bellach wedi’u rhyddhau, gael eu harestio mewn cyrchoedd nos Iau.
Cadwyd cadarnhad hefyd fod prawf DNA yn dangos bod un o’r hunan-fomwyr wedi chwarae rhan yn yr ymosodiadau yn Paris ym mis Tachwedd yn ogystal.
Cafodd tri dyn arall hefyd eu harestio mewn cyrch gwahanol ym Mrwsel ddoe ar amheuaeth o fod yn ymwneud â chynllwynio ymosodiad arall yn Ffrainc.