Mae arolwg o farn arweinwyr busnesau bach a chanolig yn dangos darlun gweddol gymysg o ran eu hagweddau at yr Undeb Ewropeaidd.
Er bod mwy ohonyn nhw’n gweld yr Undeb Ewropeaidd fel rhwystr nag fel help, roedd y niferoedd mwyaf yn dweud nad oedd yn gwneud unrhyw wahaniaeth.
Dangosodd yr arolwg fod 32% yn dweud bod yr Undeb Ewropeaidd yn rhwystro busnesau tebyg iddyn nhw, 25% yn dweud ei fod yn eu helpu a 40% yn dweud nad oedd yn gwneud dim gwahaniaeth.
Credai 14% o gwmnïau fod yr Undeb Ewropeaidd yn ei gwneud hi’n haws i’w busnes gyflogi pobl, a 31% ei fod yn ei gwneud hi’n anoddach cyflogi pobl, ond dywedodd 48% nad oedd rheolau’r Undeb Ewropeaidd yn gwneud dim gwahaniaeth.
Ymateb ymgyrchwyr
Mae ymgyrchwyr dros y ddwy ochr yn y refferendwm ar ddyfodol Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin yn mynnu mai nhw sy’n cynrychioli barn y mwyafrif o fusnesau.
Wrth groesawu canlyniadau’r arolwg, dywedodd Matthew Elliott, prif weithredwr y mudiad Vote Leave, a gomisiynodd yr arolwg gan YouGov:
“Efallai fod yr Undeb Ewropeaidd yn dda i gwmnïau rhyngwladol mawr ond i fusnesau bach mae’n gweithredu fel peiriant rheoleiddio sy’n dinistrio swyddi.
“Mae Brwsel yn rhwystro busnesau llai, a bydd swyddi, cyflogau a’n economi yn ffynnu pan fyddwn yn ail-gipio grym ac yn pleidleisio dros adael.”
Wrth wrthod honiadau Vote Leave, dywedodd dirprwy gyfarwyddwr y mudiad Britain Stronger in Europe, Lucy Thomas:
“Mae’n ddadlennol nad yw’r arolwg yma’n gofyn y cwestiwn pwysicaf, sef a ddylai Prydain aros yn yr Undeb Ewropeaidd, oherwydd mae Vote Leave yn gwybod bod y mwyafrif o fusnesau – mawr a bach – yn anghytuno â nhw.
“Mae’n well ar fusnesau Prydain yn Ewrop fel rhan o farchnad sengl fwyaf y byd gyda 500 miliwn o ddefnyddwyr.
“Mae’n helpu creu swyddi, denu buddsoddiadau a chadw prisiau’n is. Byddai gadael yn peryglu swyddi, prisiau uwch ac economi wanach.”