Rhifyn olaf y papur ar ben copi o’r rhifyn cyntaf (llun: Yui Mok/Gwifren PA)
Mae The Independent yn cael ei gyhoeddi ar ffurf papur newydd am y tro olaf hedddiw, wrth iddo droi at fod yn gyhoeddiad ar-lein yn unig.
Mae tudalen flaen olaf y papur cynnwys stori am gynllwyn i ladd un o frenhinoedd Sawdi Arabia a llun trawiadol o deithwyr trên yn cael eu hachub wedi’r ymosodiadau ym Mrwsel yr wythnos yma.
Mae’r papur hefyd yn cynnwys pedwar cylchgrawn sy’n edrych yn ôl ar ei hanes.
Fe wnaeth y perchnogion gyhoeddi’r mis diwethaf y bydden nhw’n rhoi’r gorau i fersiynau print y ddau bapur, The Independent a The Independent on Sunday.
Mae’r chwaer-bapur tabloid, i, yn parhau.
Cafodd The Independent ei sefydlu gan griw o newyddiadurwyr o dan arweiniad Andreas Whittam Smith yn 1986, ac yn anterth ei lwyddiant roedd yn gwerthu dros 400,000 o gopiau yn 1988. Mae’r cylchrediad hwnnw bellach i wedi dirywio i ychydig dros 40,000.
Dywed erthygl olygyddol y papur heddiw fod y penderfyniad i fynd ar-lein yn “esiampl i bapurau newydd ledled y byd i’w ddilyn”.
Dywed fod newyddiaduriaeth wedi newid y tu hwnt i unrhyw adnabyddiaeth a bod yn rhaid i’r papur newydd newid hefyd.