Helen Mary Jones (llun o'i gwefan Trydar)
Byddai llywodraeth Plaid Cymru’n sicrhau gwaith, addysg neu hyfforddiant i unrhyw berson ifanc sydd wedi bod yn chwilio am waith am fwy na phedwar mis.

Fe wnaed yr addewid gan lefarydd y Blaid ar Blant a Phobl Ifanc, Helen Mary Jones, sy’n gobeithio adennill etholaeth Llanelli yn etholiad y Cynulliad ar 5 Mai.

Dywed fod tua 65,000 o bobl ifanc rhwng 16-24 oed yng Nghymru ar hyn o bryd sydd heb fod mewn gwaith, addysg na hyfforddiant, a bod y ganran yn 84% ymysg mamau ifanc.

“Dan lywodraeth Plaid Cymru, byddwn yn gweithio i wneud yn siwr na fydd yr un person ifanc yng Nghymru yn cael ei adael ar ôl,” meddai.

“Fel rhan o’n hymrwymiad i gefnogi ein pobl ifanc o’r crud i’r yrfa, byddwn yn cyflwyno Gwarant Swyddi i rai dan 25.

“Bydd hyn yn cynnwys ymrwymo i gael gwaith, addysg neu hyfforddiant i unrhyw berson ifanc fu’n chwilio am waith ers fwy na phedwar mis.

“Agwedd allweddol o wneud hyn fyddai ein haddewid i greu 50,000 o brentisiaethau newydd erbyn diwedd tymor nesaf y Cynulliad.”

Gwasanaeth Cenedlaethol

Dywedodd hefyd y byddai Plaid Cymru’n creu cyfundrefn o Wasanaeth Cenedlaethol gwirfoddol, a fyddai’n rhoi cyfle i bobl ifanc ofalu am hen bobl a dysgu sgiliau cyfrifiadurol.

“Byddai’r gwasanaeth yn agored i bawb 18-25 oed yng Nghymru, fyddai’n golygu lleoliad 9-12 mis taledig, llawn-amser fydd yn canolbwyntio ar ofal rhwng y cenedlaethau neu gynhwysiant digidol,” meddai.

“Mae Plaid Cymru eisiau i bawb sy’n byw yn ein cenedl – waeth beth fo’u hoedran – deimlo fod ganddynt ran yn ei dyfodol.

“Wedi 17 mlynedd o Lafur yn gadael i’n system addysg ddirywio a siomi ein pobl ifanc, mae’n bryd cael newid. Dyna’r hyn mae Plaid Cymru yn gynnig ar Fai 5.”