Swyddfa'r Post yn O'Connell Street, Dulyn, lie cafodd y Proclamasiwn Rhyddid ei gyhoeddi yn 1916 (llun o wefan Wikipedia CC BY-SA 3.0)
Mae dathliadau canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon wedi cychwyn gyda chyfres o seremonïau yn Nulyn heddiw.

Fe wnaeth yr Arlywydd, Michael D Higgins, gychwyn y gweithgareddau trwy osod torch yn yr Ardd Goffa yn Parnell Square i anrhydeddu’r gwrthryfelwyr.

Yn ddiweddarach yn y dydd, mae’n cyfarfod teuluoedd y rhai a gafodd eu lladd mewn digwyddiad arbennig yn stadiwm RDS yn Nulyn, lle bydd yn datgan dyled y wlad i’r rhai a gododd yn erbyn ymerodraeth Prydain yn anterth ei nerth.

Mae disgwyl iddo hefyd drafod agwedd ddynol y gwrthryfel a gwahanol gymhellion y gwrthryfelwyr a’u dylanwad ar Iwerddon ar ôl i’r wlad ennill annibyniaeth.

Proclamasiwn

Fe fydd uchafbwynt y dathliadau’n digwydd yfory, gan gychwyn gyda darllen y Proclamasiwn Rhyddid y tu allan i’r Swyddfa Bost am 10am.

Yn dilyn, fe fydd tua 4,000 o aelodau’r fyddin, y gwasanaethau brys a chyn-filwyr yn gorymdeithio o St Stephen’s Green i O’Connell Street a Capel Street.

Mae disgwyl y bydd dros chwarter miliwn o bobl allan ar y strydoedd ar gyfer yr hyn sy’n cael ei ddisgrifio fel y dathliad cyhoeddus mwyaf yn hanes y wladwriaeth.

Fe fydd y dathliadau’n parhau ddydd Llun gyda digwyddiadau diwylliannol mewn dros 200 o leoliadau yn y ddinas.

Trobwynt allweddol

Er mai methiant oedd y gwrthryfel ar y pryd, does dim amheuaeth iddo brofi’n drobwynt cwbl allweddol yn hanes Iwerddon gan arwain at ffurfio’r weriniaeth rai blynyddoedd yn ddiweddarach.

Cafodd tua 1,350 o bobl neu lladd neu hanafu yn y gwrthryfel chwe diwrnod a gychwynnodd ddydd Llun y Pasg, 24 Ebrill 1916, a chafodd 3,430 o ddynion a 79 o ferched eu harestio gan y Prydeinwyr.

Cafodd 15 o arweinwyr y gwrthryfel, gan gynnwys Padraig Pearse a James Connolly eu saethu yng ngharchar Kilmainham yn Nulyn, lle bydd yr Arlywydd Higgins yn gosod torch yfory.