Maes awyr Brwsel ar ôl y ffrwydrad fore Mawrth (llun: PA)
Mae rhagor o ffrwydradau wedi bod ym Mrwsel wrth i gyrchoedd yr heddlu barhau yn y ddinas.
Daw adroddiadau am ddyn arall yn cael ei arestio ac am dystion yn clywed sŵn saethu.
Mae chwech o bobl yn dal yn y ddalfa ers ddoe ar ôl cyrchoedd yng nghanol Brwsel ac ym maestrefi Jette a Schaerbeek, lle’r oedd yr heddlu wedi cael hyd i bentwr anferth o ffrwydron a deunyddiau gwneud bomiau.
Mae disgwyl penderfyniad yn ddiweddarach a fyddan nhw’n cael eu cyhuddo neu eu rhyddhau.
Cafodd o leiaf 32 o bobl eu lladd a 270 eu hanafu yn yr ymosodiadau gan hunan-fomwyr ym maes awyr Brwsel a gorsaf metro yn y ddinas fore Mawrth, ac mae o leiaf un o’r rhai sydd o dan amheuaeth o chwarae rhan flaenllaw yn dal ar ffo.