John Kerry, Ysgrifennydd Gwladol America (o'i wefan swyddogol)
Dywed John Kerry, Ysgrifennydd Gwladol America, y bydd yr ymosodiadau ym Mrwsel yn dwysáu penderfyniad y gorllewin i drechu’r Wladwriaeth Islamaidd.

Roedd yn ymweld â Brwsel i ddangos ei gefnogaeth i Wlad Belg ar ôl yr ymosodiadau ddydd Mawrth.

“Y rheswm y mae’r Wladwriaeth Islamaidd yn dibynnu ar weithredu’r tu allan i’r Dwyrain Canol yw bod eu ffantasi o caliphate yn diflannu o flaen eu llygaid,” meddai.

“Mae eu tiriogaeth yn crebachu. Mae eu harweinwyr yn lleihau. Mae eu ffynonellau ariannol yn edwino, ac mae eu hymladdwyr yn ffoi.”

Addawodd y byddai’r frwydr yn eu herbyn yn parhau’n ddiflino.

“Wnawn ni ddim cael ein llesteirio,” meddai. “Fe ddown ni’n ôl gyda mwy o benderfyniad a mwy o nerth – a wnawn ni ddim gorffwyso hyd nes byddwn ni wedi dileu eich credoau nihilistaidd a’ch llwfrdra oddi ar wyneb y ddaear.”

Achub cam Gwlad Belg

Fe wnaeth John Kerry hefyd achub cam gwasanaethau cudd Gwlad Belg, sydd wedi cael eu beirniadu am fethu â rhwystro’r ymosodiadau.

Dywedodd fod dulliau amddiffyn yr awdurdodau yng Ngwlad Belg wedi gwella’n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, a bod tua 10 o swyddogion yr FBI ym Mrwsel yn helpu gyda’r ymchwiliad i’r ymosodiadau.

“Mae pobl yn rhy barod i neidio i gasgliadau,” meddai. “Wn i ddim beth oedd yr holl amgylchiadau ac os cafodd rhai digwyddiadau neu gyfleoedd penodol eu colli. Fe ddaw hyn i’r amlwg dros gyfnod o amser, ond dw i’n meddwl bod yr holl weld bai braidd yn orffwyll ac yn amhriodol.”