David Dixon o Hartlepool, a oedd wedi bod ar goll ers yr ymosodiadau fore Mawrth (Llun: PA)
Cafwyd cadarnhad bod dyn o swydd Durham yng ngogledd Lloegr a oedd ar goll ers yr ymosodiadau ym Mrwsel dydd Mawrth wedi cael ei ladd.
Roedd David Dixon, 53 oed, yn wreiddiol o Hartlepool ond yn byw ym Mrwsel.
Roedd ymhlith y 32 o bobl a gafodd eu lladd pan ffrwydrodd bomiau hunan-fomwyr ym maes awyr ac mewn gorsaf Metro ym Mrwsel. Mae ei deulu wedi apelio am gael llonydd i alaru.
Mewn datganiad, dywedodd y Swyddfa Dramor:
“Gallwn gadarnhau bod David Dixon wedi colli ei fywyd yn yr ymosodiadau a ddigwydddodd ym Mrwsel ddydd Mawrth 22 Mawrth 2016. Rydym yn cydymdeimlo â’i deulu ar yr adeg anodd yma ac mae staff ein Llysgenhadaeth yn dal i roi cymorth iddyn nhw.
“Gwyddom am saith o ddinasyddion Prydeinig a gafodd eu hanafu yn yr ymosodiadau – ac mae tri ohonyn nhw’n dal i dderbyn triniaeth mewn ysbyty. Mae staff ein Llysgenhadaeth yn gweithio i helpu pawb o’r dioddefwyr Prydeinig.”